9 Mawrth 2018

 

Annwyl Syr/Madam

Ymchwiliad i’r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru pan fydd y DU yn gadael yr UE - Ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymchwiliad i’r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru pan fydd y DU yn gadael yr UE. Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

§    Asesu’r gwaith cynllunio ariannol ar gyfer disodli ffrydiau ariannu yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru, a'r hyn sy’n cael ei wneud i baratoi ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd posibl o ran lefelau cyllid a chyfrifoldeb gweinyddol.

§    Archwilio pa ddulliau o weinyddu'r hyn a fydd yn disodli ffrydiau ariannu yr Undeb Ewropeaidd a allai ddarparu'r gorau i Gymru, ac i ba raddau y gallai'r rhain ail-greu neu fod yn wahanol i'r trefniadau presennol.

Mae rhagor o fanylion am yr ymchwiliad ar gael ar wefan y Cynulliad:

http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=21353

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Mae'r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â diddordeb yn y pwnc hwn.

Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg. Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i'r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor yr haf.

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru

Fel arall, ysgrifennwch at:

Clerc y Pwyllgor

Y Pwyllgor Cyllid

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd, CF99 1NA

 

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 11 Mai 2018. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn. Mae canllawiau ar gael i'r rhai sy’n rhoi tystiolaeth i bwyllgorau.

Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr hwn at unrhyw unigolyn neu sefydliad a hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.

Datgelu gwybodaeth

Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael yma. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.  Fel arall, mae copi caled o'r polisi hwn i'w gael ar gais drwy gysylltu â'r Clerc (Leanne Hatcher 0300 200 6364).

 

Yn gywir

Simon Thomas AC

Cadeirydd